1.3.10

Mawrth 1af Nant Conwy v Llangefni Adroddiad Ifor Glyn Reports

Clwb Rygbi Nant Conwy




Sadwrn / Saturday 27.02.10 Nant Conwy 28 v Llangefni 9



Cwpan Gogledd Cymru / North Wales Cup

(Cyfanswm tros ddau gymal / Aggregate score over two legs = 35 – 31 i/to Nant Conwy)



Sgorwyr Nant Scorers:

Ceisiau / Tries: Llywarch ap Myrddin, Carwyn Ellis, Dewi James, Ioan Davies,



Trosi / Conversion: Llywarch ap Myrddin (4)



Yn wir, Nant a fu’n ymosod drwy gydol y gêm hon. Ar ôl pwyso a phwyso am hanner awr gyfan gyda’r bas olaf yn cael ei bwrw ymlaen bedair gwaith o leiaf, sgoriodd Carwyn Lloyd Milburn gic gosb i Langefni. Gyda’r chwiban am hanner amser ar fin cael ei chwythu, llwyddodd Llywarch i dorri drwy’r llinell amddiffynnol o’r diwedd gan sgorio cais o dan y pyst. Roedd y trosiad yn un hawdd iddo. Nant felly yn parhau i fod 13 pwynt ar ei hol hi ar yr hanner.

Yn fuan yn yr ail hanner, sgoriodd Carwyn ei ail gic gosb i wneud pethau’n waeth i Nant!

Gyda chwarter awr ar ôl a Nant yn dal ati i bwyso’n barhaus ac yn anlwcus ar sawl achlysur llwyddodd y capten, Carwyn i sgorio cais ar y llinell ar ôl sawl gwthiad yn dilyn ei gilydd. Trosiad cywir arall gan Llywarch. Dau funud arall, dyna Dewi yn sgorio cais hynod debyg i’r un a sgoriodd Nant yn yr hanner cyntaf. Llywarch yn trosi eto. Y sgoriau yn gyfartal tros y ddau gymal yn awr. Yn syth o’r ail gychwyn, dyfarnwyd cic gosb i Langefni a chamodd eu rhif 10, Carwyn ymlaen i droi’r ornest o’u plaid hwy.

Dau funud yn unig oedd yn weddill, pan fu i Ioan guro’i gyn-dim allan ar yr asgell a rhedeg o dan y pyst i sgorio’r cais pwysig. Llywarch yn trosi i roddi buddugoliaeth o 4 pwynt yn unig i Nant tros y ddau gymal.

Y Sadwrn nesaf, bydd Nant yn chwarae gêm Gynghrair i ffwrdd yng Nghaernarfon.



It would be true to state that Nant were attacking throughout this match. They could easily have scored tries on four occasions early in the match but the final pass was knocked on each time. Against the run of play after half an hour, Llangefni’s no. 10, Carwyn Lloyd Milburn scored with a penalty. Right on the stroke of half time, Llywarch, at last found a gap in the Llangefni defence and scored a try under the posts. An easy conversion for him which meant that Nant were 13 points in arrears at the interval.

Early in the second half, Nant were punished again with a successful penalty kick by Carwyn for Llangefni.

With only a quarter of an hour left and Nant continuing to be camped in the Llangefni half, there were three consecutive rucks by the try line and Nant’s captain and no. 8 finally squeezed over to touch the ball down on that elusive try line. A successful conversion by Llywarch followed. Another two minutes play and there was a repitition of Nant’s try in the first half but this time it was the lock, Dewi that dived under the posts for a try. Llywarch successful with the follow up again. At this time the aggregate scores were level!

But, immediately from the re start, Llangefni were awarded another penalty and up stepped Carwyn again to take his side 3 points ahead.

There were only two minutes left when winger, Ioan had the last laugh over his ex team mates when he beat the defence with speed and touched down under the posts again. Llywarch made sure of gaining the win ( by 4 points onl over the two legs) with a successful conversion.

Next Saturday, Nant will return to League action and will be playing Caernarfon away.



Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)

Followers