Clwb Rygbi Nant Conwy
Sadwrn / Saturday 08.01.2011 Nant Conwy 29 v Llangefni 10
(Plat Swalec / Swalec Plate) Rownd 2nd Round
Sgorwyr Nant Scorers:
Ceisiau / Tries: Eryl Jones (2), Grant Jones(1), Robart Jones (1), Simonie Roolka (1)
Trosi / Conversions: Peredur Ellis (2)
Roedd ôl tua chwe wythnos arall i ffwrdd heb chwarae yn amlwg ar y ddau dîm gyda sawl camgymeriad ‘amseru’ gan y ddwy ochr. Ar ôl yr 20 munud cyntaf, death yn gêm eithaf diddorol i’r gwyliwr cyffredin ei gwylio. Chwe munud yn unig a gymerodd i Jim dorri trwy dacl ar linell Llangefni a sgorio cais dan y pyst - un a droswyd gan Pep. Gwrthodwyd ’cais’ i Grant gan y bu iddo dirio ar y llinell ochr mae’n debyg ond caniatawyd cais tebyg iddo ar y gornel chwith ar ôl 18 munud o chwarae. Bum munud yn ddiweddarach, bu i bac Llangefni rycio dros linell Nant a Mark Pritchard oedd y blaenwr olaf i godi. Llwyddodd Carwyn Milburn gyda’r trosiad i roi sgôr o 12 - 7 ar yr hanner.
Ar ôl rhai munudau o bwyso ar linell Llangefni ar ddechrau’r ail hanner, llwyddodd y bachwr, Eryl i sgorio ger y pyst - cais a droswyd gan Pep eto. Tua thri chwarter ffordd drwy’r gêm, bu i Carwyn Milburn gicio cic gosb lwyddiannus i Langefni i wneud y sgôr yn 19 -10. Chwe munud oedd ar ôl pan sgoriodd Eryl ei ail gais yn y gornel dde ar ôl cefnogi symudiad da ar draws y cae gan y cefnwyr. Yna, pam oedd yr 80 munud ar ben, sgoriodd Robat (Blaen Cwm) ei gais cyntaf i’r tîm cyntaf trwy dirio yn y gornel dde eto. Sgor o 29 -10 felly ar y diwedd. Edrych yn debyg y chwaraeir Caernarfon gartref yn y rownd nesaf ar Sadwrn olaf Ionawr!
Gêm gynghrair fydd gêm nesaf Nant gartref yn erbyn Pwllheli dydd Sadwrn nesaf.
The fact that there had been a gap of six weeks in playing was evident for both sides with several ‘timing’ errors, especially during the first quarter. After that period, perhaps the neutral person would describe the game as being an entertaining match to watch. It took Jim six minutes only to side step through the Llangefni defence to score a try under the posts for Pep to convert.. Grant was refused a’ try’ on the extreme left wing due to touching the ball down on the touch line it seems. However, Grant did score a try in that left hand corner after 18 minutes play. Llangefni powered over the Nant line five minutes later after an excellent ruck and drive by their forwards. Mark Pritchard was the last forward to stand on his feet with the ball. Carwyn Milburn converted that try to make the score 12-7 at half time.
After several minutes of pressure on the Llangefni line at the beginning of the second half, Eryl the hooker crept over for a try after around 10 phases of play. Pep duly converted. About three quarters way through the match, Carwyn Milburn was successful with a penalty attempt this time to make the score 19 -10. There were 6 minutes remaining when Eryl scored his second try of the afternoon in the extreme right corner after supporting a cross field movement by the backs. The entire 80 minutes was up when Robat (Blaen Cwm) scored his first ever try for the first team with a touchdown, again on the extreme right. A final result of 29 – 10. It appears that the next round will involve playing Caernarfon at home on the last Saturday of January.
Nant’s next match will be a league game at home against Pwllheli next Saturday.
Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)