Clwb Rygbi Nant Conwy
Sadwrn / Saturday 23.01.10 Nant Conwy 21 v Caernarfon 3
Plat Swalec Cymru / Wales Swalec Plate: rownd 3 round
Sgorwyr Nant:
Ceisiau / Tries: Simione Roolaka, Cais Cosb / Penalty try
Trosi / Conversion: Llywarch ap Myrddin
Adlam / Drop: Llywarch ap Myrddin
Cosb / Penalties: Llywarch ap Myrddin (2)
Ar ôl gohirio’r Sadwrn diwethaf, roedd y gêm hon yn cael blaenoriaeth tros gêm gynghrair. Hon oedd y gem gyntaf i’r ddau dim ers y 19eg Rhagfyr 2009.
Cyfnewidiwyd ciciau cosb yn y 6 munud cyntaf. Llywarch yn llwyddiannus ar ôl 2 funud a Celfyn Morris i’r Cofis bedwar munud yn ddiweddarach. Caernarfon fu’n pwyso am y chwarter awr nesaf heb wir ymddangos fel sgorio chwaith. Yn raddol, daeth Nant yn ôl i’r gêm a thri munud cyn yr hanner bu i Llywarch sgorio gyda chic adlam urddasol o tua 40 metr i ffwrdd. Funud cyn y chwiban, sgoriodd gic cosb arall i wneud y sgôr yn 9 - 3 ar yr hanner.
Ar ôl 4 munud o’r ail hanner, bu i ‘Jim’ dorri rhwng canolwyr Caernarfon a rhedeg o’r hanner ffordd i sgorio cais. Deng munud cyn y diwedd gyda Nant yn ennill sgrym 5, troseddodd
Caernarfon a dyfarnwyd cais cosb a droswyd yn hawdd gan Llywarch.
Sgôr derfynol o 21 - 3 felly a bydd Nant yn chwarae naill ai Bryn Mawr neu Tredegar i ffwrdd yn rownd 4 a hynny ar yr 20fed Chwefror. Y Sadwrn nesaf, dychwelir i’r gynghrair gyda gêm i ffwrdd yn erbyn Bro Ffestiniog.
After last Saturday’s match was cancelled due to the snow, today’s Swalec Plate match took precedent over the League match. This was the first match both sides had played in since the 19th December 2009.
Both sides interchanged penalty kicks in the first six minutes with Llywarch successful after 2 minutes and Celfyn Morris for the visitors after 6 minutes. Caernarfon had a good spell of pressure for the next quarter of an hour without really looking as if they could score a try. Gradually, Nant worked their way back to the match and three minutes before the interval, Llywarch scored with a superb drop goal from around 40 metres out. He followed this with a successful penalty attempt just before the half time whistle making the score 9 – 3 at the break.
After 4 minutes of the second half, ‘Jim’ as he is popularily known, broke in between the Caernarfon centres on the half way line and ran in for a try in the corner. Ten minutes before the end, Nant were awarded a 5 metre scrum, where Caernarfon sinned and Nant were awarded a penalty try, duly converted by Llywarch.
A final score of 21 – 3 then and Nant’s opponents in round 4 will be either Bryn Mawr or Tredegar Ironsides away on the 20th February 2010. Next week, Nant will return to League action with an away match at Bro Ffestiniog.
Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)