3.10.10

02.10.10 Nant Conwy 24 Mold 26 Adroddiad Ifor Glyn Report

Clwb Rygbi Nant Conwy



Sadwrn / Saturday 02.10.10 Nant Conwy 24 v Yr Wyddgrug / Mold 26



Sgorwyr Nant Scorers:

Ceisiau / Tries: Eryl Jones, Ifan Jones, Aaeron Jones, Arwyn Owen

Trosi / Conversions: Peredur Ellis (2)





Yn 10 munud cyntaf y gem aeth Yr Wyddgrug ar y blaen gyda dwy chic gosb lwyddiannus gan Steve Quinton. Ymatebodd Eryl gyda chais ar ol i'r pac wthio tros y llinell ar y chwater. Troswyd gan Pep. Cerdyn coch i James ar ol ymateb i benelin yn ei wyneb a Nant i lawr i 14 dyn. Cais cyntaf yr ymwelwyr ar ol 24 munud gan James Kirby a chic gosb arall gan S. Quinton i wneud y sgor yn 7 - 14. Ond, daeth Nant yn ol gyda chais hyfryd gan Ifan i wneud sgor o 12 - 14 ar yr hanner. Pwysodd Nant yn gryf o'r ail gychwyn gan sgorio dau gais (Aaeron a Chink) gyda Pep yn trosi'r ail i wneud y sgor yn 24 -14 ar ol 10 munud o'r hanner. Cerdyn melyn i chwaraeawr o'r ddwy ochr wedyn am faterion technegol cyn i Aron Jones sgorio cais i'r Wyddgrug ar ol 20 munud. Methwyd y trosiad. Yn anffodus bu i chwaraewr Nant dderbyn ei ail gerdyn melyn am yr un trosedd 10 munud cyn y diwedd a chwaraewyd gyda 13 dyn am y munudau olaf.



Roedd 49 munud wedi'i chwarae pan benderfynodd y dyfarnwr roi cais cosb i'r Wyddrug heb egluro beth oedd y drosedd. Trosiad hawdd i S Quinton gyda'r ymwelwyr yn dwyn y gem. Ar diwedd y gem, barn gyffrednol pawb gan gynnwys cefngwyr a chwaraewyr yr ymwelwyr oedd fod Yr Wyddgrug wedi bod yn hynod ffodus i ennilll ac mai Nant oedd y tim gorau o bell ffordd. Dau bwynt bonws i Nant o'r gem felly.

Dydd Sadwrn nesaf bydd Nant yn chwarae adref yn erbyn Dolgellau yng Nghwpan Gogledd Cymru.





Mold went 6 points ahead in the first 10 minutes of the natch by virtue of two successful penalties by Steve Quinton. Quarter way through the match, Nant replied as the pack pushed over the line and Eryl touched down. Pep converted. From the restart, James received an elbow in his face and was red carded for retaleating. Five minutes later, James Kirby scored Mold's first try and S Quinton scored his second penalty afte 29 minutes. But, Nant went back on the attack and Ifan dartedt hrough to score an unconverted try to make the score 12 - 14 at half time.



Nant became even more forceful at the start of the second half and both Aaeron and Chink scored tries in the first 10 minutes, the second one being converted by Pep to make the score 24 - 14. A player from both sides was sin binned then before Mold scored their second ty (unconvertred) by Aron Jones.A few minutes after his return to play, Nant's yellow carded player received another yellow card and Nant had to play the last 19 minutes of the match with 13 players.



49 minutes had been played when Mold were awarded a penalty ty easily converted by S Quinton. Nobody on the pitch understood what the offence that led to the penalty try was and at the end of the match, Mold supporters and players stated that the best team by far had lost and that theyfelt that they did not deserve to win the match. Nant, therefore, had two bonus points from the match.



Next Saturday, Nant will be playing at home against Dogellau in the North Wales Cup.



Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)

Followers