18.10.10

16.10.2010 Ruthin 17 Nant Conwy 38 Adroddiad Ifor Glyn Report

Clwb Rygbi Nant Conwy



Sadwrn / Saturday 16.10.2010 Rhuthun 17 v Nant Conwy 38



Sgorwyr Nant Scorers:

Ceisiau / Tries: Owain Jones(2), James Jones (1), Ifan Jones (1), Carwyn Ellis (1), Cais Cosb / Penalty try (1)

Trosi / Conversions: Peredur Ellis (4)





Ar ddiwrnod braf arall dechreuodd y tîm cartref yn bwrpasol gyda Wil Davies , eu rhif 9 yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb yn y deng munud cyntaf. Yn wir, o hynny ymlaen, daeth Nant i mewn i’r gêm fwyfwy, a chafwyd cais cosb ar ôl 18 munud yn dilyn cyfnod o bwyso trwm gan y pac. Troswyd yn hawdd gan Pep. Parhawyd i bwyso am weddill yr hanner ond roedd y chwiban am hanner amser yn dynesu, pan fu i Owain dorri’r amddiffyn yn gelfydd a sgorio cais ger y pyst. Troswyd hwn eto gan Pep i wneud sgôr o 6 - 14 ar y chwiban hanner amser.



Bu pum munud cyntaf yr ail hanner yn debyg iawn i ddechrau’r gêm gyda Wil Davies yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb arall tros Rhuthun. Unwaith eto, bu i Nant ail afael mewn chwarae graenus ac ar ôl saith symudiad ar y llinell gartref, plymiodd y prop, James drosodd am gais. Methwyd y trosiad i lygad yr haul ond dri chwarter ffordd trwy’r gêm, bu i Owain unwaith eto dorri’n hyfryd i dirio ger y pyst a Pep yn trosi. Y pwynt bonws am bedwar cais wedi’i ennill erbyn hyn. Ar ôl ail ddechrau, bu sawl symudiad arall ar linell Rhuthun. Y tro hwn, Ifan a wasgodd drosodd yn y gornel chwith. Aflwyddiannus fu’r trosiad. Llithrodd safon y chwarae rhywfaint wedi hyn gyda nifer o doriadau bychan ond, mewn ymosodiad prin, bu i Siôn Roberts sgorio cais i Ruthun ond methwyd y trosiad gyda 3 munud yn unig yn weddill. Chwaraewyd y 10 munud olaf gyda sgrymiau llonydd gan nad oedd gan y tîm cartref ddigon o flaenwyr rheng flaen. Serch hynny, o sgrym bum medr, bu i Carwyn gwblhau gêm ardderchog i Nant yn y funud olaf trwy sgorio cais a droswyd gan Pep, ei frawd. Sgôr derfynol o 17 -38 felly.

Dydd Sadwrn nesaf bydd Nant yn chwarae i ffwrdd eto, yn erbyn Llandudno y tro hwn.



On another dry day, the home team began purposefully with Wil Davies, their scrum half, being successful with two penalty attempts during the opening 10 minutes. But, from then on, Nant appeared to move up a gear, and were awarded a penalty try after 18 minutes following continious pressure on the home line by the Nant pack. Pep converted easily. The pressure by Nant continued for the remainder of the half, but the half time whistle was approaching when Owain broke through the defensive line beautifully to touch down by the posts. Pep converted again to make the half time score 6 -14.

The first 5 minutes of the second half was a repeat of the first minutes of the match with Wil Davies successful with another two penalty attempts.. Again, Nant ‘upped a gear’ and after seven phases of play on the home line, it was good to see prop, James plunging over for a try.. The conversion attempt towards the sun was missed but Owain repeated his movement of the first half and touched down by the posts – a try that was converted by Pep.. The bonus point being reached at this stage, then. From the re-start, Nant pressed forward again and, after several phases of play on the try line, it was scrum half, Ifan who squeezed over right in the left corner for an unconverted try. Soon after. The standard of play deteriorated somewhat with several stoppages and the last 10 minutes were played with ‘passive’ scrums as Ruthin did not have enough front row players fit and able to play. Three minutes remained when Sion Roberts went over on the right wing for an unconverted try for Ruthin. On virtually the last play of the match, Carwyn scored a similar try to that of Ruthin when he went over from a scrum and that try was converted by his brother, Pep to make the final score 17 – 38, in a very enjoyable match.



Next Saturday, Nant will play Llandudno away in the league.

Ifor Glyn Ysgrifennydd/Secretary Nant Conwy

Followers