Clwb Rygbi Nant Conwy
Sadwrn / Saturday 09.10.2010 Nant Conwy 39 v Dolgellau 10
(Cwpan Gogledd Cymru / North Wales Cup)
Sgorwyr Nant Scorers:
Ceisiau / Tries: Owain Jones(2), AaeronJones (2), Eryl Jones (1) & Ioan Davies (1)
Trosi / Conversions: Peredur Ellis (3)
Cosb / Penalties: Peredur Ellis (1)
Ar ddiwrnod heulog a braf, gwelwyd dau dîm yn ceisio’u gorau i chwarae rygbi deniadol gyda Nant yn mynd 10 - 0 ar y blaen ar ôl 20 munud - cais gan Owain a droswyd gan Pep ac yna cic gosb lwyddiannus gan Pep. O fewn 10 munud i’r hanner, cic gosb i asgellwr Dolgellau, Dion Jones cyn i’r pac wthio’r bachwr Eryl trosodd am gais funud cyn yr hanner i roi sgôr o 15 - 3 ar y chwiban.
Chwaraeodd Dolgellau’n well yn yr ail hanner, ond ar ôl 10 munud arall o chwarae, bu i Nant sgorio dau gais arall trwy Owain eto ac Ioan. Troswyd cais Ioan gan Pep. Sgoriodd Dolgellau gais haeddiannol reit yn y gornel chwith trwy Carwyn Pugh a throswyd gyda chic ardderchog gan Dion Jones eto. Ond, o hynny ymlaen, Nant fu’n ‘rhedeg y sioe’ gydag Aeron yn ennill rhedfa o’i linell ei hung an gicio’r bel ymlaen i dirio’r bel am gais gwych. Trosodd Pep yr ymdrech ac yna, yn yr amser ychwanegol rhyddhawyd y bel ar hyd y llinell ymosod ac aeth Aeron trosodd am ei ail gais yn y gornel chwith i wneud sgôr derfynol o 39 -10.
Dydd Sadwrn nesaf bydd Nant yn chwarae i ffwrdd yn erbyn Rhuthun yn y gynghrair.
On an sunny and dry day, two teams trying to play excellent rugby were evident with Nant going 10 – 0 ahead after 20 minutes following a try by Owain, converted by Pep and a successful penalty kick by Pep. Within 10 minutes to half time, the Dolgellau winger, Dion Jones, was successful with a penalty kick before the Nant pack pushed the hooker, Eryl over for an unconverted try just before the break. A score of 15 – 3 at half time then.
Dolgellau played better in the second half, but it was Nant who scored two further tries in the first 10 minutes of the half through Owain again and Ioan; the latter try being converted by Pep. Three quarters of the way through the match, Dolgellau scored a deserved try right in the left hand corner which was beautifully converted by Dion Jones. The try scorer was Carwyn Pugh. From then on, Nant were ‘running the show. With only five minutes remaining, Dolgellau were pressurising when the ball broke loose in the Nant 22 when Tom kicked the ball upfield. Winger Aeron, showed a turn of speed leaving three fast running opponents in his wake to touch the ball down for a try that was converted by Pap. Only a minute remained of the match when Aeron again squeezed over for an unconverted try in the left corner after the ball had been passed all along the back line from right to left.
Next Saturday, Nant will return to league action and will play Ruthin away.
Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)