Gogledd Cymru - Y Cam Nesaf
Cyhoeddwyd: 7 Rhagfyr 2009
Penodi Clive Griffiths yn brif hyfforddwr Tîm Gogledd Cymru
a chadarnhau Cynnig Rugby Canada.
Penodwyd Clive Griffiths, cyn brif hyfforddwr amddiffyn Cymru fel prif hyfforddwr Tîm Datblygu Gogledd Cymru, a chytunodd Rugby Canada ar y cynnig i gael chwaraewyr rhyngwladol Canada i hybu proffil a safon perfformiad y tîm.
Penodwyd Clive Griffiths am 5 mis. Gweithiodd Clive gyda Mike Ruddock yn ystod tymor y Gamp Lawn yn 2005, a bu’n helpu tîm Caerwrangon Mike Ruddock i gyrraedd gêm derfynol Cwpan Sialens Ewrop yn 2008. Bydd Clive yn dewis y tîm newydd a’u paratoi ar gyfer cyfres o gemau cystadleuol. Cadarnhawyd eisoes mai Parc Eirias, Bae Colwyn fydd eu cartref. Dyma bartneriaeth gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Bydd 10 chwaraewr rygbi rhyngwladol o Ganada yn dod i Ogledd Cymru ar 7 Ionawr mewn cynllun i geisio hybu safonau a phroffil tîm cynrychioladol Gogledd Cymru, a rhoi cyfle i’r chwaraewyr ifanc elit o Ganada chwarae gemau cystadleuol yr un pryd
Yr ail benodiad proffil uchel i dîm Gogledd Cymru yw Rudi Meir sy’n gyn hyfforddwr sgiliau a chyflyru Caerloyw, a fydd yn gwneud yr un swydd yma, yn ogystal â sefydlu proses perfformiad a rhwydwaith mewnol. Bydd John Aby, hyfforddwr presennol Gogledd Cymru yn gweithio fel un o hyfforddwyr cynorthwyol y tîm ar ei newydd wedd.
Bydd Clive Griffiths rŵan yn sefydlu proses dewis ar gyfer Gogledd Cymru i greu uned chwarae effeithiol gyda chwaraewyr Cymru a Chanada
Cafodd 9 gêm eu cadarnhau ar gyfer y tîm, gan ddechrau yn erbyn Tîm Datblygu’r Leicester Tigers ym Mharc Eirias, dydd Gwener 15 Ionawr. Bydd y rhestr gemau lawn yn cael ei chwblhau yn ddiweddarach y mis hwn.
Mae cynllun strategol Gogledd Cymru yn cynnwys sefydlu Academi Gogledd Cymru a fydd yn cael ei redeg gan Marc Roberts, Rheolwr Perfformiad a Datblygu Gogledd Cymru, gyda chymorth Coleg Llandrillo ac Ysgol Rydal, a fydd yn darparu rhaglen academaidd a rygbi integredig,. Bydd yr academi ar safle Parc Eirias fel rhan o ddatblygiad sawl miliwn o bunnau ar y safle.
Yr uchelgais yw gweithio mewn partneriaeth go iawn gyda Rugby Canada i ddatblygu eu chwaraewyr nhw ymhellach yr un pryd â datblygu rygbi yng Ngogledd Cymru. Ym mhen hir a hwyr, fel bydd y system academi yng Ngogledd Cymru’n dechrau datblygu chwaraewyr addas, byddwn yn adolygu’r ffordd ymlaen gyda’n cydchwaraewyr o Ganada.
Dywedodd Clive Griffiths, “Mae’r penodiad yn her gyffrous i mi. Mae Gogledd Cymru yn ffynhonnell doniau rygbi nad yw’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd ac rwy’n gobeithio y gallaf roi sylw priodol i hynny. Mae nifer o bobl wedi bod yn ymgyrchu ers blynyddoedd i wella proffil rygbi yng Ngogledd Cymru a gallwn wireddu hynny petaem i gyd yn cydweithio â’n gilydd.
“Mae bob amser yn waith caled sefydlu tîm a’u cael i gydweithio, a dydy’r sefyllfa hon ddim yn wahanol. Mae gennym ni amser rŵan i ddewis grŵp o chwaraewyr o Ogledd Cymru ac yna creu ein cynllun chwarae o amgylch y grŵp hwnnw a’r chwaraewyr o Ganada gyda’i gilydd. Rydw i’n siŵr y bydd hyn yn anodd i ddechrau a llawer iawn i’w ddysgu. Bydd yn bosibl i chwaraewyr eraill ymuno â’r garfan o hyd. Rydyn ni’n gobeithio y byddwn ni’n helpu i wella safon rygbi clybiau yng Ngogledd Cymru trwy greu cystadleuaeth am le yn y tîm.”
Dywedodd Joe Lydon, Pennaeth Datblygu Rygbi Undeb Rygbi Cymru, “Mae gan Clive Griffiths gryn brofiad proffesiynol ar y lefel uchaf a dyma sefyllfa ddelfrydol iddo ddod a thîm fel hyn at ei gilydd. Mae gan Rudi Meir hefyd lawer o brofiad yn ei faes ac rwy’n siŵr y bydd hyfforddwyr a chwaraewyr y dyfodol yng Ngogledd Cymru yn gallu manteisio ar eu gwybodaeth a’u sgiliau.
“Bydd cynnwys 10 chwaraewr o Ganada yn y garfan yn helpu i wella safon a phroffil tîm Gogledd Cymru ar y maes chwarae ac oddi arno. Bydd hefyd yn helpu i greu tîm lled broffesiynol cystadleuol yng Ngogledd Cymru bron ar unwaith. Bydd yn ein galluogi ni i chwarae gemau deniadol ym Mharc Eirias, yn y gobaith y bydd hyn yn helpu i gynyddu diddordeb yn y gêm a hefyd y niferoedd sy’n chwarae rygbi yng Ngogledd Cymru.
"Ein nod trwy’r amser ydi gwella safon chwaraewyr rygbi yng Ngogledd Cymru yn y tymor hir a sefydlu academi yn y rhanbarth a fydd yn helpu i ddarganfod a meithrin y dalent honno yn y dyfodol, gan roi cyfle'r un pryd i’r chwaraewyr gael profiad o rygbi cystadleuol safon uchel.”
Dywedodd Kenton Morgan, Cadeirydd Rygbi Gogledd Cymru, “Mae Clive, Rudi, Jon a 10 o Ganada yn tchwanegu grym at ychelgais Rygbi Gogledd Cymru i ragori. Mae’r datblygiad arloesol hwn yn gam ymlaen yn yr isadeiledd a pherfformiad rydyn ni eu hangen ar y cae. Mae hwn yn gyfle unigryw i gymuned rygbi Gogledd Cymru ddangos yr angerdd ac adnoddau sydd eu hangen er mwyn i ni dyfu a hawlio ein lle ym myd rygbi Cymru.”
Dywedodd Roger Lewis, Prif Weithredwr Grŵp Undeb Rygbi Cymru hefyd, “Rygbi ydi gêm genedlaethol Cymru. Mae’n ein diffinio fel cenedl. Mae’r cynllun rygbi yng Ngogledd Cymru yn hanfodol bwysig, nid yn unig ar gyfer datblygu’r gêm, ond hefyd i uno Cymru fel gwlad. Mae’r cyhoeddiadau hyn yn arwydd clir ein bod am ddatblygu pob chwaraewr, hyfforddwr a swyddog gêm yng Ngoledd Cymru i’r eithaf, fel sydd wedi cael ei nodi yng Nghynllun Strategol Undeb Rygbi Cymru."
Dywedodd y Cynghorydd Dilwyn Roberts, Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, “Rydyn ni wrth ein bodd yn croesawu tîm Canada i Fae Colwyn a’r gobaith yw y bydd hyn yn hybu rygbi yng Ngogledd Cymru yn fawr. Rydyn ni’n awyddus iawn i weld rhagor o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon. Wrth ddod a chwaraewyr o Ganada i’r ardal rydyn ni’n credu y bydd yn ysbrydoli ac annog pobl ifanc y rhanbarth. Bydd yr awdurdodau yng Ngogledd Cymru yn cydweithio’n agos i sicrhau y bydd unrhyw gyfle economaidd ac adfywio yn sgil y cynllun hwn o fudd i’r rhanbarth cyfan.”
Dywedodd Graham Brown, Prif Weithredwr Rugby Canada bod y cynllun i gael deg chwaraewr o Ganada i chwarae yng Nghymru yn gam mawr ymlaen i ddarparu cystadleuaeth ar lefel elit yn ogystal â datblygu chwaraewyr elit.
“Mae darparu cystadleuaeth elit ac amgylchfyd hyfforddi ar gyfer ein chwaraewyr gorau wedi bod yn nod erioed i Rugby Canada. Mae darparu cyfle i chwaraewyr ddatblygu i fod yn broffesiynol wrth barhau i ddarparu amgylchfyd hyfforddi safon uchel i’r rhai nad ydynt yn chwarae’n broffesiynol dramor, trwy ein partneriaeth gyda’r PISE (Sefydliad Rhagoriaeth Chwaraeon y Môr Tawel), yn cyflawni ein nod.” O bencadlys Rugby Canada yn Toronto dywedodd Brown hefyd, “Mae prosiect Gogledd Cymru yn un rhan o’n rhaglen datblygu ac mae’n bartneriaeth bwysig i Rugby Canada.”
Gemau Gogledd Cymru 2010 (rhestr i'w gael ei gadarnhau ymhen diwedd y mis):
• Dydd Gwener 15 Ionawr v Leicester Tigers Development XV - Parc Eirias
• Dydd Mercher 20 Ionawr v Antiassassins (Chester) - away
• Dydd sadwrn 30 Ionawr v Glamorgan Wanderers - away
• 2 / 3 Chwefror v Scarlets - Llandovery
• Dydd Mercher 17 Chwefror v Worcester - Parc Eirias
• Dydd Mercher 23 Chwefror v Sale Jets - Parc Eirias
• Dydd Mercher 10 Mawrth v Leeds - Parc Eirias
• Dydd Gwener 19 Mawrth v Oxford University - Parc Eirias
• Dydd Sadwrn 17 Ebrill v Cross Keys - Parc Eirias
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â:
Liz Jones, Rheolwr Cyfathrebu Undeb Rygbi Cymru
07736 056669 lizjones@wru.co.uk
Eirian Edwards, Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy:
01492 576007 eirian.edwards@conwy.gov.uk