20.12.09

20.12.09 Llangefni v Nant Conwy - Adroddiad Ifor Glyn Report

Clwb Rygbi Nant Conwy


Sadwrn / Saturday 19.12.09 Llangefni 22 v nant Conwy 7

Cwpan Gogledd Cymru / North Wales Cup: rownd 1 round (Cymal 1 / 1st Leg)

Sgorwyr Nant:

Cais / Try: Carwyn Ellis

Trosi / Conversion: Llywarch ap Myrddin

Am ryw reswm, gorfodwyd Nant i chwarae’r gêm hon ar y diwrnod serch i’r clwb wneud cais i ohirio oherwydd nad oedd rhaid chwarae’r gêm tan ddiwedd Chwefror 2010

Oherwydd hynny, penderfynwyd rhoi cyfle i wyth o chwaraewyr rin tim Ieuenctid ac o ddan yr amgylchiadau, rhoddodd yr holl dim berfformiad da – cyfle a fydd yn rhoi profiad gwerthfawr i nifer o chwarewyr ifanc. Nant oedd yn pwyso drwy’r hanner cyntaf gan fynd i sgorio ddwywaith. Daeth y cas haeddiannol wrth i’r pac wthio trosodd a Charwyn yn tirio’r bel. Trosiad hawdd i Llywarch. Yna yn syth o’r ail ddechrau bron, trawyd cic amddiffynnol Llywarch i lawr a sgoriodd y tim cartref gais a droswyd.

Sgôr o 7 - 7 ar yr hanner felly.

Cic gosb i Langefni ar ol 5 munud o’r ail hanner cyn iddynt sgorio cais pur amheus ar ol 20 munud. Troswyd hwn eto. Aeth pennau rhai o’r ieuenctid i lawr wedi hyn ac nid oedd yn syndod gweld Llangefni’n sgorio’u trydydd cais – un hynod debyg i gais nant gyda 6 munud ar ol. Troswyd hwn i wneud sgor ar ddiwedd y cymal cyntaf yn 22 – 7 i Langefni.

Ar hyn o bryd, ni benderfynwyd ar ddyddiad i gynnal yr ail gymal yn Nant. Y gem gynghrair nesaf fydd i ffwrdd yn Rhuthun ar y 9fed Ionawr 2010.

Dymuna swyddogion a chwaraewyr nant Conwy Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda yn 2010 i holl ddarllenwyr yr adroddiad yma a holl gefnogwyr y Clwb.



For some reason, Nant were forced to play this match today although the Club had asked for the match to be postponed as the final date for the completion of round 1 is the 28th February 2010.

Because of this decision, Nant had to field eight members of their Youth side and, under those circumstances the team gave a good account of themselves. The experience will be a useful one for the young players and will hold the first team in good stead in future years. Nant pressed throughout the first half and spurned two good scoring opportunities before the pack pushed their way over for Carwyn Ellis to touch down after30 minutes play. Llywarch converted. Immediately from the re start, Llywarch’s clearing kick was charged down and the Llangefni no. 12 scored a try that was duly converted.

A score of 7 – 7 at half time then.

Llangefni went ahead due to a successful penalty attempt after 5 minutes of the second half. Then after twenty minutes play Llangefni were awarded a rather dubious try that was again converted. The heads of some of the Nant youngsters went down a bit after this and it was no surprise that Llangefni scored a similar try to the Nant one with 6 minutes left. This try was also converted making a final score of 22 – 7 to the home side.

At the time of writing, the date for the second leg at Nant has not been decided. Nant’s next league match will be on the 9th January 2010 away at Ruthin.

Nant’s officials and players wish everybody that reads this account and all the Club’s supporters a merry Christmas and an excellent new year when it arrives.





Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)

Followers