5.9.10

05.0.10 Nant Conwy 20 Caernarfon 26 Adroddiad Ifor Glyn Report

Clwb Rygbi Nant Conwy

Sadwrn / Saturday 04.09.10 Nant Conwy 20 v Caernarfon 26

Sgorwyr Nant Scorers:

Ceisiau / Tries: Carwyn ap Myrddin, Carwyn Ellis (2)

Trosi / Conversions: Ifan Jones (1)

Cosb / Penalties: Carwyn ap Myrddin (1)

Mae’n ystrydeb bellach mai ‘pwyntiau sy’n ennill gemau’ ac roedd hynny’n wir heddiw. Nant yn methu gyda phedair ymdrech am gic cosb a Chaernarfon yn llwyddo gyda phob cynnig.

Sgôr o 8 - 20 ar yr hanner gyda Carwyn ap yn sgorio cais a chicio cic gosb i Nant. Sgorwyr yr ymwelwyr oedd ceisiau yr un i Rhodri Owen a Dylan Gwyn, y ddau yn cael eu trosi gan Celfyn Morris yn ogystal â dwy gic gosb lwyddiannus ganddo hefyd.

Daeth Nant yn fwy i mewn i’r gêm yn yr ail hanner a bu i Carwyn Ellis sgorio dau gais a throswyd yr ail gan Ifan. Dwy gic gosb i Gaernarfon gan Celfyn eto.

Nid oedd hon yn gêm fudr o gwbl. Serch hynny, gwelwyd pedwar cerdyn melyn - un i Nant a thri i Gaernarfon.

Dydd Sadwrn nesaf bydd Nant yn chwarae i ffwrdd yn erbyn Pwllheli.

It is a cliché by now that ‘it is points scored that wins matches’. That was certainly true today as Nant failed with four penalty attemps as Caernarfon were successful with their four attempts.

A score of 8 -20 at half time, Nant’s scores being a penlty by Carwyn ap Myrddin and an unconverted try by him as well. Caernarfon’s points came from tries by Rhodri Owen and Dylan Gwyn both converted by Kelvin Morris as well as two successful penalty kicks by Kelvin.

Nant became more forceful during the second half and Carwyn Ellis scored two tries, the second of which was converted by Ifan Jones. Caernarfon had another two penalties successfully converted by Kelvin again.

This would not be classified as a dirty game at all although 3 Caernarfon players were sin binned as well as one from Nant.

Next Saturday, Nant will be playing away at Pwllheli.

Ifor Glyn (Ysgrifennydd / Secretary)

Followers