12.9.10

12.09.1 PWLLHELI 17 NANT CONWY 18 -ADRODDIAD IFOR GLYN REPORT

Clwb Rygbi Nant Conwy

Sadwrn / Saturday 01109.10 Pwllheli 17 v Nant Conwy 18

Sgorwyr Nant Scorers:

Ceisiau / Tries: Eryl Jones, Trystan Sion

Trosi / Conversions: Ifan Jones (1)

Cosb / Penalties: Ifan Jones (2)

Ym munud cyntaf y gem aeth Nant ar y blaen gyda chic gosb lwyddiannus o bellter gan Ifan. Ymatebodd Gethin Roberts i'r tim catref gyda chic debyg ymhen 10 munud. Pwysodd Nant yn gryf o'r ail gychwyn a gwthiodd y pac, Eryl y bachwr trosodd i sgorio cais ar ol 12 munud. Trosodd Ifan. Pedwar munud arall a throswyd cic gosb arall gan Ifan. Nant yn llwyr reoli yn y chwarter cyntaf yma ond Pwllheli'n ymateb yn rhannol trwy gic gosb arall gan Gethin Roberts qr ol 25 munud

Sgôr o 6 - 13 ar yr hanner felly.

Daeth Pwllheli yn fwy i mewn i’r gêm yn yr ail hanner a bu i Huw Williams sgorio cais ar ol 5 munud. Dwy gic gosb lwyddiannus gan G Roberts i'r tim cartref wedyn yn gwneud yn sgor yn 17 – 13 ar ol 22 munud. Nant erbyn hyn o dan cryn dipyn o bwysau. Cyrhaeddodd yr 80 munud ar yr un sgor ond, yn yr amser ychwanegol o 9 munud a hanner a ganiatawyd gan y dyfarnwr, bu i Bwllheli droseddu 9 gwaith o fewn cyrraedd y pyst. Rhedwyd pob cyfle gan nad oedd triphwynt yn ddigon i Nant. Ar yr eiliad olaf un, llwyddodd Trystan i dirio'r bel ar y gornel chwith. Rhyddhad i Nant ond siomiant i Bwllheli!

Dydd Sadwrn nesaf bydd Nant yn chwarae adrefyn erbyn Bethsda.

Nant went ahead in the 1st minute of the natch by virtue of a successful penalty by Ifan. Pwllheli replied after 10 minutes in a similar manner – Gethin Robers being the scorer. Two minutes later a strong drive by the Nant pack resulted in Eryl the Hooker touching down for a try that was converted by Ifan. This was followed 4 minutes later with another successful penalty by Ifan. Nant were controlling the first half but were penalised by Roberts gain after 4 minutes.

A score of 6 – 13 at half time.

Pwllheli became more forceful during the second half and Huw Williams scored a try for them after 5 minutes. Another 2 successful penalties by Roberts for Pwllheli made the score 17 – 13 after 22 minutes which remained until 80 minutes had been played. Nant withheld strong pressure from Pwllheli and then, matters changed completely during the extra time (9 and a half minutes in total allowed by the referee. Pwllheli committed 9 fouls during this extra period but 3 points would be unsufficient for Nant. At the very last moment of the game, Trystan managed to squeeze over for a try in the left hand corner to win the match for Nant. A sigh of relief for Nant and a huge disappointment for Pwllheli.
IFOR GLYN YSGRIFENNYDD/SECRETARY NANT CONWY

Followers